Skip to main content
Yn dangos yn awr, Rembrandt yn Amgueddfa Sir Gâr

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn cael benthyg y paentiad Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume gan Rembrandt van Rijn gan yr Oriel Genedlaethol o 14 Ionawr i 23 Ebrill.

Mae'n rhan o Daith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol 2021-2023 ac mae mynediad am ddim i'r arddangosfa yn Abergwili.

Cariad, Hanes Carwriaeth a Phriodas yng Nghymru

YMA CYN HIR.

Yn gudd yng nghasgliadau Amgueddfa Sir Gâr mae pethau a roddwyd gan bobl fel arwydd o'u cariad, ac maent yn rhoi syniad i ni o arferion caru unigryw i Gymru. Yn yr arddangosfa hon, edrychwn ar yr hanesion tu ôl i'r traddodiadau hyn, ac er bod cariad wedi aros yn rhywbeth cyson, mae'r modd y mae wedi cael ei fynegi a'i ddathlu ar hyd y blynyddoedd wedi adlewyrchu'r newidiadau yn y gymdeithas.

Find out more
Ysgolion

Ysgolion

Yn y dyfodol, byddwn yn cynnig sesiynau wedi eu hwyluso i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dim ond ymweliadau hunandywys sydd ar gael. Dyma’r profiadau sydd ar gael i ysgolion ar hyn o bryd.

Parc Howard Museum in Llanelli

Newyddion Amgueddfa Parc Howard

Nid yw to Parc Howard yn gollwng bellach. Rydym yn ail agor yn 2023 gyda siop newydd ac arddangosiadau newydd …

Find out more
Cadwch mewn cysylltiad